Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
|
|||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 26 Ionawr 2017 |
|
||||
Amser: |
13.00 - 14.40 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: AC(5)2017(1) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AC (Cadeirydd) Suzy Davies AC Caroline Jones AC Adam Price AC Joyce Watson AC |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Sarah Dafydd, Rheolwr Newid a Gwella Busnes Gwion Evans, Pennaeth y Swyddfa Breifat Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
1.2 Datganiad o fuddiant
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.3 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr.
2 Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd a'r gofynion o ran cyflwyno adroddiad blynyddol
Cyflwynodd Adam Price, sef deiliad y portffolio, gynigion ar gyfer Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd Comisiwn y Cynulliad ar gyfer y Pumed Cynulliad.
Rhoddodd y Comisiynwyr sylw arbennig i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd a'r ffyrdd y mae barn y rhai yr ymgynghorwyd â hwy wedi cynorthwyo i lunio'r Cynllun drafft.
Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn gefnogol ar y cyfan ac ystyriodd y Comisiynwyr rai o'r meysydd lle y gwnaed awgrymiadau a'r addasiadau a wnaed i'r drafft o ganlyniad. Trafodwyd hefyd sut y byddai staff yn cael eu cefnogi a'r berthynas rhwng cyfrifoldebau'r Comisiwn i ddarparu gwasanaethau yn y ddwy iaith swyddogol, a chyfrifoldebau eraill, er enghraifft cydraddoldebau.
Nododd y Comisiynwyr y camau cadarnhaol a gymerwyd ers cyflwyno'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol, ac roeddent yn cytuno bod y fersiwn a ystyriwyd gan y Comisiwn yn gam i fyny o ran darpariaeth gwasanaeth a dull gweithredu cytbwys er mwyn ein symud tuag at gyflawni ein huchelgais.
Derbyniodd y Comisiynwyr y Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft, cynigion ar gyfer rhagor o waith craffu ar y Cynllun cyn ei gymeradwyo yn ffurfiol yn y Cyfarfod Llawn, ac y dylai Adam Price AC gymeradwyo'r fersiwn derfynol ar ran Comisiwn y Cynulliad.
Hefyd, derbyniodd y Comisiwn yr adroddiad blynyddol drafft, a fydd yn cael ei osod i'w ystyried gan y Cyfarfod Llawn maes o law, gan ddod â'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol presennol i ben.
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am faterion strategol
3.1 Ystâd y Cynulliad
Cadarnhaodd Dave Tosh ei fod wedi cwrdd â phob un o'r Comisiynwyr i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y gwaith sydd ar y gweill. Gofynnodd y Comisiynwyr am bapur i roi gwybodaeth gefndir ychwanegol.
Penderfynodd y Comisiynwyr gyfyngu ar gwmpas y gwaith sydd i'w wneud i archwilio'r opsiynau ar gyfer darparu capasiti yn y dyfodol.
3.2 Y Panel Arbenigol ar ddiwygio trefniadau cyfansoddiadol
Yn dilyn trafodaeth yng nghyfarfod diwethaf y Comisiwn, roedd y Comisiynwyr yn fodlon bod gwaith i sefydlu Panel Arbenigol ar ddiwygio trefniadau etholiadol yn mynd rhagddo.
Gan barhau â'u gwaith i fynd i'r afael â chapasiti'r Cynulliad, rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiwn ynglŷn â'r camau a gymerwyd i benodi aelodau'r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Trefniadau Etholiadol y Cynulliad.
Bydd y Panel yn gweithredu'n annibynnol, a'i rôl fydd gwneud argymhellion i Gomisiwn y Cynulliad erbyn hydref 2017 ynglŷn â nifer yr Aelodau y mae eu hangen ar y Cynulliad, y system etholiadol fwyaf addas, a'r oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau'r Cynulliad.
Er y bydd y Panel yn gweithredu'n annibynnol, ni all weithio'n llwyr ar wahân i wirioneddau'r sefyllfa wleidyddol. Bydd y Llywydd hefyd yn sefydlu, ac yn cadeirio, Grŵp Cyfeirio Gwleidyddol a fydd yn cyflawni rôl ymgynghorol er mwyn cynorthwyo'r Panel i sicrhau bod argymhellion ymarferol yn deillio o'i waith.
Cytunodd y Comisiynwyr y dylai'r Llywydd fwrw ymlaen â'r cyhoeddiadau.
3.3 Yr wybodaeth ddiweddaraf o ran yr UE
Wedi i Gynghorwr blaenorol y Comisiwn ar yr UE adael, rhoddwyd gwybod i'r Comisiynwyr am y trefniadau newydd a oedd wedi'u rhoi ar waith, gan ystyried y modd y mae'r sefyllfa wedi newid yn dilyn y refferendwm ar yr UE.
Bydd deiliad newydd y swydd yn gweithio yng Nghaerdydd ac yn teithio'n aml i Frwsel i barhau i rwydweithio a chynrychioli buddiannau'r Cynulliad a hwyluso ymweliadau gan Aelodau a phwyllgorau.
4 Cofnodion cyfarfod ACARAC a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd
Nododd y Comisiynwyr gofnodion cyfarfod ACARAC a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd.
5 Trefniadau'r Comisiwn
Nododd y Comisiynwyr yr wybodaeth a ddarparwyd am eu cyfarfodydd yn y cyfnod hyd at doriad yr haf 2017.
6 Unrhyw fater arall
Crybwyllodd Adam Price yr arolwg yn y dyfodol agos ar gyfer Aelodau / staff cymorth yr Aelodau.